Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Ionawr 2024
Amser:
09.30 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13666
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Richard Hughes, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Professor David Miles, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol Tom Josephs, Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol David Phillips, Sefydliad Astudiaethau Cyllid Guto Ifan, Canolfan Llywodraethiant Cymru Ed Poole, Canolfan Llywodraethiant Cymru Jessica Laimann, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2.1 Nodwyd y papur.
3.1 Fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am gan Richard Hughes, Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol; yr Athro David Miles, aelod o'r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Tom Josephs, aelod o’r Pwyllgor Cyfrifoldeb Cyllidebol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol
3.2 Cytunodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ddarparu:
· Nodyn ar amserlen y gwaith sy'n cael ei wneud mewn perthynas â datblygiadau ym maes paratoi rhagolygon.
4.1 Fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Phillips, Cyfarwyddwr Cyswllt, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid; Dr Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru); a Guto Ifan, Darlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru).
5.1 Fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jessica Laimann, Grŵp Cyllideb Menywod Cymru / Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru; a Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.
5.2 Cytunodd Sefydliad Bevan i ddarparu’r canlynol:
· Ei waith cyfrifo mewn perthynas ag ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.